Fy unig gysur dan y ne', Fod Iesu'n sefyll yn fy lle, Yn dwyn fy meichiau bob yr un, A'u rhoi ar ei ysgwyddau'i hun. Anfeidrol gadarn yw dy fraich; Dim pwys i ti, er maint fy maich: Gynt ar y groes dioddefaist lid, A phwysau holl bechodau'r byd. Yn fynych, mynych, Iesu cu, Datguddia'th fod yn eiddo'i mi; Mewn 'stormydd mawr yn wastad gād Im' ddygu llefain, "Abba. Dad," O edrych rhwng y ser i lawr, I eithaf dyfnder moroedd mawr; Yno cei wel'd fy ysbbryd gwan Yn gruddfan yn y dyfnaf fan. Nid wyf ond gwan, O! na'd fi lawr, Dan bob rhyw drallod, fach a mawr; Mi bwysaf arnat tra ynwyf chwyth; Yr wyt yn ddigon, digon byth. Nerthaist dy blant - O! faint dy ras! Er gwaned oent, i gario'r maes; Pa faint yn llai a fydd dy rym Trwy estyn braich o gymmhorth im? Fy ngharu wnest, er maint fy mai, A'm galw o blith annuwiol rai; 'B'le dof fi bellach am iachād A nerth i goncro ond at fy Nhad? Myrddiynau maith orchfygaist ti O elynion hyll ar Galfari 'Rwy'n pwyso ar dy allu mawr, 'Roi f'holl elynion inau lawr.William Williams 1717-91
Tonau [MH 8888]: gwelir: O Iesu'r Brenin mwya'i fraint Yn fynych fynych Iesu cu |
My only comfort under heaven, Is that Jesus is standing in my place, Bearing my burdens every one, And putting them on his own shoulders. Immeasurably strong is thy arm; No weight to thee, despite my burden: Once on the cross thou didst suffer wrath, And the weights of all the sins of the world. Often, often, dear Jesus, Reveal that thou dost belong to me; In great storms constantly let Me learn to cry, "Abba, Father." O look down between the stars, To the utmost depths of great seas; There thou mayst see my weak soul Groaning in the deepest place. I am but weak, O do not let me down! Under every kind of trouble, small and great; I will lean on thee while I have breath; Thou art sufficient, sufficient forever. Thou didst strengthen thy children - O how great is thy grace! Despite how weak they were, to carry the field; How much less shall be thy force Through stretching thy arm of help to me? Love me thou didst, despite my fault, To call me from amongst ungodly ones; Where shall I come henceforth for healing And strength to conquer but to my Father? Vast myriads thou didst overcome Of ugly enemies on Calvary I am leaning on thy great power, To put all my own enemies down also.tr. 2017,20 Richard B Gillion |
|